Treftadaeth Jazz Cymru
Treftadaeth Jazz Cymru yw’r casgliad hynaf o ddeunydd jazz yn y DU a hwn yw’r unig Gasgliad Jazz amlgyfrwng.
Hwn yw’r unig Gasgliad sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth jazz menywod ac etifeddiaeth ddiwylliannol cerddoriaeth Americanaidd Affricanaidd yng Nghymru.
Dechreuodd yn 1989 gydag adolygiad o gasgliadau archifol Cymru. Yn y blynyddoedd wedyn, casglwyd 20 o hanesion llafar. Y perthnasoedd hyn oedd y sylfaen ar gyfer gwaith prosiect a rhoddion parhaus.
Rhoddir pwyslais ar gynnwys themâu llai adnabyddus, megis rôl menywod yn y stori hon, a gwaddol cerddoriaeth Americanaidd Affricanaidd yng Nghymru. Mae’r Casgliad yn cynnwys Hanesion Llafar, papurau, ffotograffau, fideos, DVDs, llyfrgelloedd, Gynau Llwyfan ac effemera.
Fel y dywedodd yr Athro Syr Deian Hopkin, (cyn-Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru), mae’r Athro Jen Wilson, y pianydd a’r hanesydd, sylfaenydd y Casgliad, wedi:
“Gwneud cyfraniad enfawr i ailddarganfod rôl hanesyddol menywod mewn cerddoriaeth Jazz a dawns, ac mae’r sefydliad y mae hi wedi’i greu yn chwarae rhan hanfodol bwysig wrth warchod yr agwedd sylweddol hon ar ein treftadaeth gerddorol a diwylliannol.”
Neu fel y dywed Kim Collis, Archifydd Sir Gorllewin Morgannwg:
“Mae pwrpas ac egwyddorion y sefydliad yn cynnig ffordd werthfawr o ail-gydbwyso naratif hanes modern Cymru oddi wrth un sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gyflawniadau dynion gwyn i gydnabod cyfraniad menywod a’r gymuned BME i Gymru.”
Wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Lleolir Y Casgliad a’i ymchwil gan gynnwys perfformiadau, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Cawsom ein sefydlu yn 1986, ac rydym yn cael ein rhedeg gan Fwrdd Ymddiriedolwyr gan ddod yn Elusen gofrestredig ym 1998.
Cafodd ein gwaith ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn 2017 pan enillom Wobr Dewi Sant am Ddiwylliant.