[vc_row][vc_column][ultimate_heading main_heading_margin=”margin-top:15px;margin-bottom:20px;”]

Jen Wilson 1944 – 2023

[/ultimate_heading][/vc_column][/vc_row][vc_row][vc_column][vc_single_image image=”4841″ img_size=”medium” alignment=”center” css_animation=”fadeIn” css=”.vc_custom_1684922403012{padding-top: 20px !important;}”][/vc_column][/vc_row][vc_row][vc_column][vc_text_separator title=”Bu farw Jen Wilson, pianydd Jazz, awdur, hanesydd ac archifydd nos Lun 8 Mai 2023 yn 78 oed.” css_animation=”fadeIn” css=”.vc_custom_1689754453886{padding-top: 20px !important;}”][vc_column_text css_animation=”fadeIn” css=”.vc_custom_1689754671347{padding-top: 20px !important;padding-right: 20px !important;padding-bottom: 20px !important;padding-left: 20px !important;background-color: #000000 !important;border-radius: 5px !important;}”]Gwnaeth Jen gyfraniad enfawr i fywyd diwylliannol Abertawe a Chymru, ac ni allwn ond cyfeirio at hynny’n fyr yn y darn hwn. Roedd hi o flaen ei hamser o ran ei phwnc, a’i dulliau o ymgysylltu, a’r elfennau a’r rhinweddau hyn sy’n gwneud ei gwaith mor gyfoes.

Roedd Jen yn gerddor gwych yn ei rhinwedd ei hun. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed am iddynt gloi’r piano i’w hatal rhag chwarae’r gerddoriaeth Jazz roedd hi’n ei charu. Bryd hynny arferai fynd i Lundain gyda’i hannwyl frawd John, drymiwr oedd yn chwarae mewn band, ac yna ymweld â chlwb Ronnie Scott. Fel teipydd mewn swyddfa llongau yn Abertawe, ac yna’n byw ac yn gweithio ym maes gwasanaethau teuluoedd yn Brixton a Newcastle, fe wnaeth hi feithrin sgiliau gweinyddu a sgiliau hanfodol bywyd am y ffordd mae’r byd yn gweithio.

Dechreuodd ei haddysg go iawn yng Nghanolfan Menywod Abertawe yn yr 80au cynnar.  Yn ogystal â mynd i Gomin Greenham i brotestio yn erbyn taflegrau Cruise, gweithiodd Jen gyda Ursula Masson a Gail Allen i ymchwilio a chofnodi hanes menywod ‘cyffredin’ yn ardal Abertawe.  Roedd hyn yn cynnwys cyfweld â chleifion benywaidd hŷn yn nyddiau olaf ysbyty Mount Pleasant lle’r oedd yn gweithio.  Gwnaeth Grŵp Hanes Menywod Abertawe 3 fideo:  am y gweithwyr arfau rhyfel benywaidd oedd yn gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd; gwrthwynebwyr cydwybodol benywaidd; a’r menywod yn streic y glowyr yng Nghwm Tawe yn 1984. Yn berthnasol i’r diwydiant cerddoriaeth heddiw, defnyddiodd y Manic Street Preachers ddarnau o’r ffilm am streic y glowyr yn eu fideos cerddoriaeth ac ar y sgrin fawr oedd yn gefndir i’w cyngherddau, a defnyddiodd y band Public Service Broadcasting recordiadau o’r cyfweliadau ar eu halbwm.

Yna dechreuodd Jen ddarganfod rhagor am gerddorion a chantorion jazz benywaidd, ac arweiniodd hyn yn y pen draw at sefydlu Menywod ym myd Jazz/Women in Jazz yn 1986, ac yna Treftadaeth Jazz Cymru/Jazz Heritage Wales.  Mae hwn yn Gasgliad Jazz aml-gyfrwng unigryw sydd wedi’i leoli bellach yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe.  Mae’n cynnwys, er enghraifft, gyfweliad hir gydag Ottilie Paterson o’r 1990au a gafodd ei gynnwys yn y rhaglen deledu ddiweddar ar y BBC. Arweiniodd hanesion llafar eraill at barodrwydd perfformwyr jazz benywaidd i gyfrannu at y Casgliad, ac mae rhai o’r rhain wedi’u defnyddio gan y Llyfrgell Brydeinig a BBC Sounds.

Fe wnaeth Jen gyfansoddi, perfformio a recordio cerddoriaeth wreiddiol gyda’r Jen Wilson Ensemble, yn cynnwys The Great American Songbook, a Salubrious Rhythm Company. Addysgodd a hwylusodd lawer o weithdai a dosbarthiadau meistr cerddoriaeth, gan gyrraedd yr uchafbwynt yn 2011 gyda’r band swing benywaidd cyntaf (ym Mhrydain?) ers yr Ail Ryfel Byd.

Drwy gydol ei gyrfa, fe wnaeth Jen ysbrydoli, addysgu ac annog cerddorion benywaidd a rhoi cyfleoedd iddynt berfformio. Teimlai fod natur weladwy a llais merched yn hynod o bwysig yn y diwydiant hwn lle roedd dynion yn tra-arglwyddiaethu.

Roedd jazz fel man cychwyn hefyd yn rhoi persbectif unigryw ar dreftadaeth ddiwylliannol cerddoriaeth Affricanaidd-Americanaidd yng Nghymru. Yn sgil ymchwil manwl i adroddiadau Gwasg Cambrian, daeth straeon i’r amlwg am bobl megis Willis, y caethwas oedd ar ffo, yn cyrraedd Abertawe, a Jessie Donaldson, a ymfudodd i Cincinatti Ohio, ac a ddaeth yn rhan o’r Rheilffordd Danddaearol. Canfu fod ymgyrch gref yn Abertawe yn erbyn caethwasiaeth, gyda siaradwyr a grwpiau megis y Fisk Jubilee Singers yn teithio o amgylch Abertawe ac yn dod â chaneuon ysbrydol a chaneuon tristwch yn fyw.

O’r gwaith hwn y datblygodd y pecyn addysgu ‘Before Freedom’ – tymor o waith ar gyfer dosbarthiadau cynradd a oedd yn arwain at berfformiad aml-gyfrwng. Ar y diwedd byddai Willis yn ymddangos yng nghefn neuadd yr ysgol, gan ganu am ei hanes drwy’r caneuon tristwch a’r caneuon ysbrydol. Mae’r hanes cymdeithasol a gwleidyddol hwn o Gymru drwy brism Jazz bellach yn cyfrannu at yr ymdrech i gynnwys y straeon coll hyn yn y cwricwlwm cyfoes.

Cafodd y gwaith hwn ei grisialu yn ‘Freedom Music: Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950’ a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Ebrill 2019. Mae’r llyfr hwn yn adfer i Gymru hanes a diwylliant cerddoriaeth a ddaeth yn adnabyddus yn y pen draw fel jazz yn y 1920au, ac mae’n dangos ac yn pwysleisio’r cysylltiadau cryf rhwng cerddoriaeth Affricanaidd-Americanaidd a oedd yn dod i’r amlwg yn UDA a datblygiad Jazz yn y diwylliant poblogaidd prif ffrwd yng Nghymru. Nododd un adolygydd fod y llyfr wedi gwneud cyfraniad pwysig i hanes menywod Cymru a’i fod yn cyfrannu at gorff cynyddol o waith ar gyfnewid diwylliannol ar draws yr Iwerydd.

Ym mis Tachwedd 2022, cynhaliodd Treftadaeth Jazz Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bedwaredd gynhadledd flynyddol Documenting Jazz yn Abertawe. Dyma’r 4edd yn y gyfres gychwynnol o gynadleddau yn dilyn y rhai yn Nulyn, Birmingham a Chaeredin.  Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar amrywiaeth mewn Jazz a derbyniodd groeso da iawn. Ar y llwyfan ehangach hwn, daethom i wybod mai Abertawe sydd â’r Casgliad Jazz hynaf ym Mhrydain, pa mor wahanol yw pob Casgliad, a gwerth unigryw yr un yn Abertawe. Cafodd y Casgliad ei arddangos, a diweddarwyd y wefan, yn dilyn dymuniad Jen y dylai ei gwaith gael ei rannu’n ehangach.

Cafodd yr hyn a gyflawnodd Jen ei gydnabod wrth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei gwneud yn Athro er Anrhydedd, ac yna derbyniodd wobr Dewi Sant am Ddiwylliant yn 2017. Roedd yn gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth hon o’i gwaith gan ei dinas a’i gwlad yn fawr iawn.

Mae Jen yn gadael ei gŵr Mike, ei phlant Rhydderch, Meredith ac Anwen, a’i merched yng nghyfraith, Chris, Lia ac Elissa, a’i hŵyr Marty, yr oedd mor falch o bob un ohonynt.

Gyda diolch i lawer o gyfranwyr.[/vc_column_text][/vc_column][/vc_row][vc_row][vc_column][vc_column_text css=”.vc_custom_1689754705386{padding-top: 10px !important;padding-bottom: 10px !important;}”]

Anfonwch eich atgofion i jazzheritagewales@uwtsd.ac.uk Cynhelir gwasanaeth coffa yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

[/vc_column_text][vc_btn title=”Cyfrannwch i barhau â gwaith Jen” style=”custom” custom_background=”#fe0000″ custom_text=”#ffffff” size=”lg” align=”center” css_animation=”fadeIn” link=”url:https%3A%2F%2Fcheckout.justgiving.com%2Fc%2F3483273|||”][/vc_column][/vc_row]